Henffych gyfeillion,
Er ei bod hi wedi bod yn amser hir rhwng rhyddhau albyms, mae meddyliau Plant Duw o hyd ar y caneuon sy’n ffurfio’n araf rhyngddom: brith syniadau yn trosi a throi yn yr awel cyn plannu gwreiddiau a thyfu’n fwy gadarn, o fewn waliau gardd flêr ond ffrwythlon y band. Tydi’r garddwyr ond yn cael amser i ymweld â’r ardd pob hyn a hyn, ac weithiau ddim hyd yn oed gyda’i gilydd, ond maent yn dal ati i weithio’n ddiwyd, yn cadw’r caneuon yn fyw ac yn eu hannog i flaguro mewn i flodau unigryw all sefyll o flaen unrhyw ymwelwr ac ennyn ymateb.
Felly daeth yr albym ‘Tangnefedd’ i fod – casgliad o ganeuon sy’n cynrhychioli pennod diweddara hanes y band dirgel yma o Arfon. ‘Plant Duw?’, ebe chi – ‘Ydyn nhw dal i fynd?’ Maddeuwn eich amheuon, ond er gwaetha diffyg sioeau byw (sydd o ganlyn gwasgariad y band i gyfeiriadau amryw bywyd), rydym dal yn fyw.
Ers 2004, mae arddull y band wedi esblygu o graidd pync a ffync mewn i rhywbeth llai diffiniedig, ond sydd yn sicr wedi’i seilio mewn cerddoriaeth soul, roc caled a gwerin. Mae’r dylanwadau yma dal i glochdar trwy’n gwaith tra’n chwilio am ffyrdd newydd o fynegi. Felly clywch chi atsain Stax a Motown drwy caneuon fel ‘Faint o Betha Wyt Ti’n Gal?’ a ‘Trempyn’, caneuon mwya popi a chwareus yr albym, tra’n cadw dynamig tynn a chaled yn y bôn. Cedwir hefyd elfen o sylwebaeth cymdeithasol yn ‘Faint o Betha Wyt Ti’n Gal?’ (llygredd llywodraeth) ac yn ‘Cant’ (apathi ac hunan-gadwraeth) – can sy’n mynd yn ol i’n gwreiddiau pync caled. Ceir caneuon sy’n adlewyrchu profiad cerddorol rhai o aelodau’r band mewn traddodiadau gwerin geltaidd (‘Ma Na Ferch yn Disgwyl Amdana i’), yn ogystal a diddordeb mewn caneuon ysbrydol, gospel a gwerin America (‘Purhau fy Enaid’).
Mae’r ddau gân yng nghanol yr albym (‘Ti Dal yn Fyw’, ‘Y Tri Llyn’) yn dangos cymysgedd o dynerwch a thrymder, gan gyflwyno naws arallfydol gyda’r offerynnau prês. Maent yn archwilio hunllefau a natur breuddwydion, a’u perthynas gyda’n profion yn y byd real. Daw roc caled a’r gitars yn ol i’r amlwg gyda ‘Hanner Call’, can am ansawdd gwrthun y byd modern gyda’i haenau abswrd o ddelwedd, arian-garwch ac hunan-bwysigrwydd. Dilynir ef gan ‘Clochdar y Ceiliog’, ymdrech chwareus y band i efelychu Sweet Baboo, Joni Mitchell, a chartŵns Rwsieg o’r chwedegau. Gorffenir yr albym gyda ‘Afagddu’. Mab Ceridwen y dduwies yn hanes Taliesin oedd Morfran, ac roedd ei hagrwch yn ddigon i ysgogi ei lysenw creulon sy’n rhoi enw y gân hon. Yn y cyfystyr yma, mae’n delio gydag ystyr iselder, gofid, hapusrwydd a llonyddwch meddwl. Mae’n dywyll ond yn obeithiol, ac yn tynnu o rhythm, dynamig, strwythur a naws cerddoriaeth yr anfarwol Fela Kuti tra’n cadw cymeriad pruddglwyfus y Cymro.
Rydym yn falch o gael cyflwyno corff cyflawn o waith sy’n cynrhychioli cyfnod amrywiol ym mywydau’r aelodau. Gobeithiwn cael chwarae’r deunydd yn fyw yn y misoedd i ddod, ac i gyfuno hyn gyda fidios i gyd-fynd a’r cerddoriaeth, ac, wrth gwrs, gobeithiwn gallwn gyflenwi mymryn o ddiddanwch i chi’r gwrandawr.
Ag enaid, pync a chariad,
Plant Duw x