Heddiw

https://plantduw.bandcamp.com/track/heddiw

Annwyl gyfeillion,

Dyma ein sengl newydd ‘Heddiw’, sydd wedi ei ryddhau yn ddigidol ar ein wefan bandcamp ac ar gael i’w lawrlwytho neu i ffrydio gobeithio erbyn hyn ar Spotify, Amazon a bob man arall yn y byd, fel y gallwch wrando iddo ar bob teclyn yrhoffech. Heblaw am y chwaraewr CD.

Ia, yn anffodus (neu ffodus, dibynnu ar eich ffansi), ni fydd ‘Heddiw’ ar gael fel CD. A finnau wedi gwario noson feddwol o win coch yn peintio fy nychymyg hanner call ar ganfas ar gyfer y gwaith celf! Y gwir ydi, toes na ddim lot o arian (os o gwbl!) mewn senglau CD rhagor (yn enwedig i fandiau llai na rhan amser fel ni) a mae’n edrych, fel y bydd albymiau yn diweddu fyny fel hyn hefyd yn y pendraw. Bww. Hww. I bobl sy’n caru cerddoriaeth, a sydd yn dipyn o geeks cerddorol, mae hyn dipyn yn drist.

Ond ta waeth! Dim ots am ddoe, na fory! Heddiw sy’n bwysig!
Dyma drac wnes i ysgrifennu ran fwyaf, ym Mryste. Dwi’n deud ran fwyaf achos y dyddiau yma dwi’n gwario lot o amser ar y beic. Unai yn cymudo i fy ngwaith yng Nghasnewydd neu ar dripiau bach yma
a thraw, a dwi wedi dechrau profiadu melodiau a syniadau cerddorol yn ffurfio yn fy meddwl tra dwi’n troi y pedalau! Difyr iawn.
Medrai ddim dweud o le yn union daeth y sbarc creadigol i sgwennu’r gan, ond yn sicr mae ryw fath o elfen disgo yma. Yn ddiweddar, dwi a Conor wedi bod yn gwrando lot i William Onyebar (os nad ydych wedi clywed amdano, edrychwch o fyny achos mae yn athrylith ) sydd efo arddull disgo a funk amrwd ond cwl iawn, a dros y blynyddoedd dwetha wedi bod yn mwynhau gwrando mwy i
gerddoriaeth soul ac rnb o’r 80au (yn hytrach na soul traddodiadol Motown neu Stax). – Mae gen i Sean i ddiolch am hynny; Encyclopedia ddiwyllianol ar draed! Un o fy hoff bethau i wneud efo Sean, tra’n gwrando i gerddoriaeth ydi clapio i’r curiad y gan, felly roedd rhai i ni ddod a handclaps mewn
i’r gan yma.

Yn ychwanegol, gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth electronig, sydd yn esbonio defnydd y synth ac y peiriant drwm; rhwbath na faswn i di rhagweld Plant Duw yn defnyddio tra o ni’n thrashio
fy hun i Talach na Iesu yn y dyddiau cynnar. Mae’n dyst i allu chwarae Myf ei fod yn medru cyfuno ei ddryms mor di-dor efo peiriant (Efallai ei fod yn gyfrifiadur?! “Wall-eee…”)

Nodyn byr am eiriau y gan: bob hyn a hyn, mi ydw i’n trio ymarfer ‘meddylfryd’ (Mindfulness), gan fy mod i weithiau yn profiadu pryder reit wael, felly dwi meddwl mae rhan o’r gan yma yn awgrymiad i fy hun i beidio poeni am y gorffenol nac y dyfodol ac i drio byw yn y presennol. Rhaid i mi gyfaddef fod yr ail bennill o ‘’hei nonni nos’ yn rwbath wnes i ddod fyny efo yn wreiddiol i fod yn annifyr tuag at Elidir! – Cyfleus iawn oedd y geiriau cysylltiedig.

Hefyd, nodyn byr arall, i ddiolch Sam Durrant o Stiwdio Un, Rachub. Fel arfer, taflodd ei lwch cosmig dros ein ymdrechion uchelgeisiol gyda dewiniaeth gref. Mi ydw i’n dysgu gymaint am gerddoriaeth drwy fod yn yr un stafell ag o. Ond unwaith eto, cafo ni ddim fel band, ddim y cyfle i fod yn yr un un stafell yn ystod y broses recordio. Es i draw i Gaerdydd i wneud bass Elidir (diolch am y croeso cynnes Delyth a Magi!), ar ben ei hun recordiodd Sean ei brif lais (am y tro cynta i Plant Duw – hapus Mam?) ac yng nghysgod bryniau Clwyd, ymysg ei blantos bach wnaeth Conor recordio y prif gitar. Yn anffodus i ni, mae’r cyfleoedd i ymarfer ac i chwara efo’n gilydd yn mynd yn fwy prin fel mae amser yn bwrw ymlaen. Nid i ddweud nad yda ni dal i fwynhau chwara. Os ddewch chi draw i’r steddfod ddydd Sadwrn, mi fydda ni’n neud tri gig mewn un diwrnod!

Ia, dyma fel mae hi efo Plant Duw. Pwy a wyr am ba hyd y fydd hyn yn cario mlaen. Am sbel hir, mae’n ymddangos ein bod wedi diflannu’n llwyr a wedyn allan o nunlle, Pop! Dyma ni! Yn ol am chwaneg arall o’r mel.

Mwynhewch a dawnsiwch efo ni am y foment!

Enaid, Pync a Chariad.
Rhys
x

Gadael Ymateb